Mis Hanes Lleol a  Chymunedol

CofNodi Covid: Stori Gwynedd yng nghyfnod COVID-19

 

(Cliciwch ar y linc yma i weld yr Oriel)

 

Mae’r pandemig COVID-19 yn ddigwyddiad heb ei debyg o’r blaen yn ystod ein hoes ni, ac mae’n hollbwysig ein bod yn cofnodi’r cyfnod hanesyddol yma drwy wneud apêl am eitemau.

Rydym yn chwilio am eitemau sydd yn adlewyrchu profiadau pawb yn y gymuned yn ystod y cyfnod yma. Gellir hyn fod yn waith celf, ffotograffau, fideos, barddoniaeth, darn o ddyddiadur, rysetiau, straeon neu wrthrychau.

Bydd hyn yn ein galluogi i ddweud stori’r pandemig yng Ngwynedd trwy archifau a gwrthrychau yn y dyfodol. Byddent hefyd yn cyfrannu at greu portread mwy cyflawn o hanes a diwylliant Gwynedd.

Bwriedir creu oriel ddigidol ar Instagram a gwefan Storiel er mwyn cael cipolwg o fywyd yn ystod cyfnod clo COVID-19 drwy ddangos detholiad o’r hyn a dderbynnir .

Unwaith y bydd yn ddiogel i wneud hynny, byddem yn dethol eitemau ar gyfer y casgliad ac yn cysylltu hefo chi i drefnu eu trosglwyddo. Felly daliwch eich gafael arnynt tan hynny. Bydd eitemau dogfennol megis gwaith celf / ffotograffau / fideos / barddoniaeth/ darn o ddyddiadur / rysáit / straeon a thebyg yn mynd i gasgliad Gwasanaeth Archifau Gwynedd a bydd eitemau gwrthrychol yn mynd i gasgliad Amgueddfa Storiel.

Bwriedir hefyd ddethol rhai o’r eitemau hyn i greu arddangosfa yn Storiel unwaith y bydd yn ddiogel i wneud hynny.

Rydym yn lansio’r prosiect yma fel rhan o ymgyrch cenedlaethol Mis Hanes Lleol a Chymunedol. Byddem yn cyfrannu at ymgyrchoedd eraill a bydd gweithgareddau penodol i blant a phobl ifanc hefyd yn cael eu creu. Cadwch i fyny hefo’r digwyddiadau diweddaraf drwy edrych ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

I gymryd rhan ebostiwch [email protected]

  • Anfon lluniau ar ffurf digidol
  • Anfon lluniau digidol o’r gwrthrychau
  • Neu ffoniwch 01248353368
  • Gyrrwch eich enw Instagram os oes gennych un a cofiwch yrru # gyda lleoliad ee #Caernarfon #Meirionnydd