Mae’n bleser croesawy mudiad Nintendo North Wales yn ol i Storiel am pnawn o gemau, gwobrau a gweithio ar y cyd. Dewch ach Switch, DS neu Game Boy gyda chi i cael cymeryd rhan mewn cystadleuaeth gemau.
Croeso cynnes i bawb.
Mae’n bleser croesawy mudiad Nintendo North Wales yn ol i Storiel am pnawn o gemau, gwobrau a gweithio ar y cyd. Dewch ach Switch, DS neu Game Boy gyda chi i cael cymeryd rhan mewn cystadleuaeth gemau.
Croeso cynnes i bawb.
Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.
Yn ystod ei oes, cynhyrchodd Brangwyn dros 500 o ysgythriadau, 340 o engrafiadau pren, 160 o lithograffau ac 130 o blatiau llyfrau o ryw fath. Mae'r detholiad bychan o brintiau sydd yn yr arddangosfa hon yn ceisio dangos rhai o gryfderau a sgiliau Brangwyn y gwneuthurwr printiau.
COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION. Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar. Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.