Celf gain a diwylliant y chwarel , dehongli gwaith artistiaid ar gymunedau chwarel Gwynedd
Mewn ymateb i arddangosfa Bert Isaac (05.07.2025 – 29.09.2025) bydd cyfres o 4 sgwrs wedi ei ciwradu gan Dr Dafydd Roberts i weld hanes cymunedau chwareli mewn lluniau gan artistiaid niferus Bydd cyfle i fanylu ar sut roedd celfyddydau gain a llenyddiaeth yn cynrychioli y cymunedau Chwareli Gwynedd . Bydd bob cyfranwyr yn craffu a manylu ar deunydd celf gain i haneswyr i greu darlun o gymunedau chwareli yn y cyfnod.
Sgwrs 1: Dr Dafydd Roberts
Yn y cyntaf o pedwar sgwrs bydd Dr Dafydd Roberts Cyn Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn craffu ar esiamplau o gelf gain gan artistiad a gweld be fedran ei ddysgu or gwaith .Mae’r tirwedd chwarelyddol yng Ngwynedd wedi bod yn atyniad i arlunwyr ers dyddiau cynnar y diwydiant llechi. Bydd Dr Dafydd Roberts yn ein tywysu drwy enghreifftiau amlwg yn dechrau gyda Henry Hawkins yn 1830au i Mary Elizabeth Thompson oedd yn artist amlwg mewn cofnodi diwylliant y chwareli yn y 1940au ac yn gorffen gyda enghreifftiau gan artistiaid fel Bert Isaac oedd yn peintio y tirwedd ôl diwydiannol .
Sgwrs 2: John Dilwyn Williams
Bydd ail sgwrs yn cael ei gyflwyno gan yr hanesydd John Dilwyn Williams a rhoi cipolwg ar hanes datblygiad y cloddfeydd llechi yn llawr Dyffryn Nantlle. Trwy gyfrwng gwahanol ddelweddau manylir ar y ffordd yr effeithiodd y cloddfeydd hyn ar dirwedd y dyffryn, gan roi inni’r dirwedd ôl-ddiwydiannol bresennol, megis Chwarel Dorothea a fu’n ysbrydoliaeth i rai o weithiau celf Bert Isaac. Erbyn heddiw gwerthfawrogir yr olion hyn ddigon i’w cynnwys o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ond nid felly oedd hi yn y 1970au pan gollwyd llawer ohonynt.
Sgwrs 3: ‘R Williams Parry’ – sgwrs gan Ieuan Wyn
Yn y drydedd sgwrs yn y gyfres bydd y Prifardd Ieuan Wyn yn trafod gwaith R. Williams Parry. Bydd yn bwrw golwg ar rai o themâu barddoniaeth un o feirdd mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar rai o themâu ei farddoniaeth gyda’i ymateb i amgylchiadau a digwyddiadau ei gyfnod. Amlygir peth o fywyd y gymdeithas chwarelyddol yn Nyffryn Ogwen yn ogystal â’r amgylchedd naturiol gyda’i fywyd gwyllt.
Sgwrs 4: ‘Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard’ – sgwrs gan Ieuan Wyn
Yn sgwrs olaf y gyfres bydd y Prifardd Ieuan Wyn yn manylu ar gampwaith yr awdur Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, a’r ‘pentra’ a ddarlunnir yn y nofel. Ystyrir y digwyddiadau a’r chwalfeydd a effeithiodd ar fywyd ac agweddau trigolion ardal chwarelyddol Bethesda a’r cylch yn nechrau’r ugeinfed ganrif.