Deuddeg artist, deuddeg portread. Celf wreiddiol o’r gyfres deledu ‘Cymry ar Gynfas’ ble’r oedd pob rhifyn yn dilyn un artist wrth iddynt ddarlunio un eicon  Cymreig mewn celfyddyd o’u dewis.

Mewn dwy gyfres o ‘Cymry ar Gynfas’ i S4C fe roddwyd 12 artist Cymreig a 12 o Gymry amlwg mewn parau a’r her i bob artist oedd creu portread.

Yn y broses o wneud y cyfresi roedd pob artist yn cael diwrnod o amser gyda’u ‘gwrthrych’ mewn lleoliad o ddewis, yna yn dychwelyd i stiwdio i weithio ar y gwaith cyn datgelu’r portreadau gorffenedig.

Fe wthiodd pob artist ei hun i’r eithaf i gyflawni’r her a osodwyd ac mae’r casgliad gorffenedig gwych o bortreadau yn adlewyrchu pob math o Gymry amlwg a phob math o arddulliau creu er mwyn rhoi casgliad cynhwysfawr a difyr.

Mae’r artistiaid a’r Cymry amlwg fel a ganlyn:

 

Cyfres 1    

Iwan Gwyn Parry  |  Robin McBryde

Meirion Jones  |  Max Boyce

Annie Morgan Suganami  |  Catrin Finch

Luned Rhys Parry  |  Rhys Mwyn

Sarah Carvell  |  Margaret Williams

Billy Bagilhole  |  Bryn Terfel

 

Cyfres 2    

Catrin Williams  |  Beti George

Meinir Mathias  |  Iolo Williams

Christine Mills  |  Osian Huw Williams

Anthony Evans  |  Myrddin ap Dafydd

Seren Morgan Jones  |  Kizzy Crawford

Wil Rowlands  |  Dafydd Iwan

 

Gellid gweld Cyfres 2 ar S4C Clic yn ystod cyfnod yr arddangosfa.

https://www.s4c.cymru/clic/programme/809593016