Plîs dewch a’ch cinio eich hun

ARCHEBWCH

Bydd Meinir Mathias yn arwain dosbarth meistr peintio olew gyfa ffocws ar bortreadau yma yn Storiel Bangor i nodi diwedd yr Arddangosfa Heddwch lle mae rhai o luniau Meinir yn cael eu harddangos. Mae’r gweithdy yn addas ar gyfer oedlion ac argymhellir rhywfaint o brofiad peintio. Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu un portread alla prime. Bydd y gweithdy yn helpu i fagu hyder gyda’ch set sgiliau gyda beirniadaethau un-i-un. Bydd Meinir yn rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad y gallwch chi eu chymhwyso i’ch paentiad eich hun. Byddwch yn archwilio potensial lliw, cyfansoddiad a chymhwyso paent ac yn dod i ddeall sut i adeiladu portread llwyddiannus.

Mae Meinir Mathias yn artist Cymreig o fri sy’n cael ei dathlu am ei gweithiau ffigurol, sy’n archwilio themâu treftadaeth, hunaniaeth a llên gwerin Cymru trwy baentiadau symbolaidd cyfoethog. Yn enwog am gydblethu naratifau o brotestiadau hanesyddol, ti a chof, mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn eang mewn orielau ledled Cymru, Llundain, ac yn rhyngwladol, gan gynnwys sioe unigol yn cynrychioli Cymru yn Palais des Congres yn Lorient, Ffrainc. Roedd hi hefyd wedi derbyn Gwobr fawreddog Ivor Davies am Gelfyddyd Gain yn y ‘Lle Gelf’- Eisteddofd Genedlaethol Cymru y llynedd. Mae ganddi BA a Meistr mewn peintio Celfyddyd Gain a bu’n dysgu am rai blynyddoedd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Gwybodaeth Bellach am y Gweithdy

Byddwn yn gweithio i fformat sgwar. Darperir delweddau a byrddau; fodd bynnag, os dymunwch weithio o’ch delwedd eich hun; dewch â phrint a ffotograff ar fformat square neu ar ddyfais fel ipad. Mae croeso i chi hefyd ddod â’ch cynfas neu gefnogaeth eich hun os yw’n well gennych. Gallwn ddarparu’r paent, cyfrwng, iseli a byrddau i beintio arnynt. Bydd angen i chi ddod â detholiad o frwsys paent (meintiau amrywiol) sy’n addas ar gyfer peintio olew. Bydd angen ffedog a phalet arnoch hefyd (rhywbeth i gymysgu’r paent arno)

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.