Mae Ymddiriedolaeth Ynys Enlli a Storiel yn cyflwyno ‘Dros y Swnt,’ arddangosfa sy’n cynnwys gwaith artistiaid fu’n rhan o rhaglen Artist Preswyl Ynys Enlli 2024.
Rachel Rosen, Gabriella Rhodes, Harrie Fuller, Claire Scott, Cai Tomos, Sophie Goard, Lilly Tiger, Carole Shearman
Mae Dros y Swnt yn dal profiadau artistiaid ar Ynys Enlli, a’r ffordd y maent wedi distyllu eu syniadau i greu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa hon yn Storiel. Trwy baentio, printio, cerflunio, ffilm, gosodiadau a sain, mae’r artistiaid yn archwilio themâu tirwedd, amser, symudiad a materoldeb, gan dynnu ysbrydoliaeth o elfennau newidiol yr ynys a’i rhythmau hynafol. Mae rhai darnau’n mapio golau a ffurf drwy farciau haenog, tra bod eraill yn cofleidio gwead y tir, gan ymgorffori gwrthrychau a ddarganfuwyd—cerrig, plu, metel rhydu, gwymon a phridd—fel rhan o’u proses greadigol.
Mae’r gwaith ffilm yn trochi ymwelwyr yn nhirwedd yr ynys, yn adrodd straeon am fytholeg, defodau a’r bywyd gwyllt a phlanhigion sy’n byw yno. Am ganrifoedd, mae Ynys Enlli wedi bod yn fan pererindod, unigedd a thrawsnewid. Mae’r arddangosfa hon yn eich gwahodd i gamu i mewn i ymatebion yr artistiaid—i wylio, i wrando, i fyfyrio, ac i ddilyn eich llwybr eich hun dros y swnt.