Ble bu unwaith fywyd a phrysurdeb, mae’r mannau cudd ac angof hyn bellach yn eistedd mewn tawelwch. Mae’r ffotograffau atmosfferig hyn yn cynnig cip ar straeon o’r gorffennol sydd yn araf ddiflannu.

 

“Datblygodd fy syniad am brosiect CYMRU GUDD oddi wrth hudoliaeth a chariad oes tuag at fforio llefydd diarffordd.  Fel sawl un, rwyf yn wastad wedi fy nennu tuag at ddirgelwch safleoedd cudd ac adfeiliedig.  Caiff fy nychymyg ei danio gan y straeon y byddaf yn dychmygu a orweddai tu fewn y muriau tawel sydd yn dirywio.  Y peth bendigedig i mi ar y siwrnai ffotograffig hon yw darganfod bod gwirionedd y safleoedd yn llawer mwy diddorol, teimladwy a lliwgar na’r straeon y gallwn erioed fod wedi dychmygu iddynt.

Dywedodd rhywun un tro bod harddwch mewn dadfeiliad.  Mae hyn wedi aros gyda mi.  Ceisiaf adlewyrchu hyn yn fy nelweddau.  Fel yr awn ni yn hyn gan gario ôl craith ein bywydau, felly hefyd mae’r llefydd arbennig hyn yn dangos olion bywydau a hanesion y bobl a wnaeth eu creu a’u cynnal, ac a fu’n byw a marw yno.

Gan amlaf gwelir cofnod o gyfoeth materol yn cael ei adael ar ôl ar ffurf cofeb, ffoledd, ystadau, plastai ac yn y blaen.  Prin iawn rhoddir yr un sylw i aneddleoedd, mannau gwaith a chanolfannau cymunedol pobl gyffredin.  Yn rhy aml bydd iddynt gael eu hesgeuluso ac anghofio.  Hoffwn i’r prosiect hwn fod yn gofnod i’r dyfodol o’r adeiladau hyn a fu unwaith yn bwysig, cyn iddynt ddirywio a diflannu’n llwyr.

Mae cip yma o straeon am fywydau syml cartrefol, y pwysigrwydd o deulu a chymuned, i drychineb ecolegol a datblygiadau cyfnod rhyfel yr arweiniodd i doriad gwawr yr oes niwclear.

Yn bersonol, mae’r delweddau yn cyfleu cymysgfa o emosiwn i mi.  Synhwyrau anghytûn o hapusrwydd, tristwch, lleddf, hiraeth, cariad a cholled.  Straeon cyffredinol bywyd.  ‘Rwy’n gobeithio bydd y delweddau yn ennyn eich emosiynau eich hun ac y gwnewch deimlo rhyw gyswllt a hwy.

Mae tynnu’r lluniau hyn wedi rhoi pleser mawr a thawelwch i mi, ynghyd ac ambell antur ar y ffordd.  Yn aml iawn, y broses o ddarganfod y safleoedd sydd wedi rhoi’r mwynhad mwyaf imi.  Dois i wybod am ran fwyaf o’r safleoedd drwy gyswllt a gwybodaeth leol a chryn dipyn o ymchwil a dyfal barhad.  Fodd bynnag bu darganfod rhai o’r goreuon wrth fynd ar goll, drwy lwc neu hap a siawns o sgwrs.”