Gareth Griffith, arlunydd aml-gyfrwng o Wynedd enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.  Cyflwynodd Gareth pum eitem i’r detholwyr  eu hystyried ar gyfer arddangosfa Y Lle Celf, arddangosfa flynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.  Daeth y tri beirniad, Bedwyr Williams, Angela Davies ac Anya Painstil draw i’r stiwdio.  Gwahoddodd y detholwyr ef i ymestyn ei gyflwyniad fel ei fod yn adlewyrchu ei ymarfer stiwdio. Yma, gallwch fwynhau dros ugain o’i weithiau, fel y dangoswyd yn yr Eisteddfod ym mis Awst.

Cafodd Gareth ei fagwraeth yn Gaernarfon, cyn astudio yng Ngholeg Celf Lerpwl yn nechrau’r 1960au. Ar ôl cyfnod yn dysgu mewn ysgol gynradd yn y ddinas honno ac yn treulio dwy flynedd yn Jamaica, dychwelodd i Gymru a threuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa fel athro celf yn ysgolion ardal Bangor. Mae wedi byw ym Mynydd Llandygai ers deugain mlynedd.  Ar ôl ymddeol, adeiladodd stiwdio newydd yn ei ardd, ac ers hynny mae wedi cynhyrchu rhai o weithiau gorau ei yrfa.  Erbyn heddiw, mae’n un o artistiaid amlycaf yn gweithio yng Nghymru.  Fe’i cynrychiolir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Walker, a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau.

Mae Gareth yn sôn am rhai o’r themâu sydd yn ei waith;

“Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan amrywiaeth o bethau. Rwy’n chwilio am gysylltiadau rhwng yr adeiladwaith rwy’n ei greu a’r hyn rwy’n ei beintio – mae symbiosis rhwng y ddau. 

Mae addasu i’r amgylchiadau rydyn ni ynddynt yn ymddangos yn fwy perthnasol nag erioed yn fy mywyd. Mae naratif sy’n rhedeg drwy gydol fy ngwaith na all fod ond yn eiddo i mi. 

Yn anochel, mae cyfeiriadau gwleidyddol yn y gwaith. Mae fy amser yn Jamaica a’m profiad o fyw mewn gwlad ôl-drefedigaethol, sydd wedi’i pholareiddio’n fawr ac yn aml yn beryglus, yn debyg i’r sefyllfa bresennol sy’n effeithio ar ein bywydau ni i gyd.”

Bydd gwaith Gareth Griffith hefyd i’w gweld yn Cabinet Storiel – gofod i artistiaid ymateb trwy celf cyfoes i gasgliadau amgueddfaol Storiel.

Llun o waith Gareth yn yr Eisteddfod gan Dewi Tannatt Lloyd.