Dathlu lliw, natur a bywyd. Cyfansoddiadau trawiadol o waith colâg haniaethol gan Glyn Baines sy’n deillio o’r gweithiau sydd o’u gwmpas yn ei stiwdio. Yn yr awyr agored gyda phapur a phensel, caiff Helen Baines ei ysbrydoli gan ardaloedd hardd cyfagos megis Cwmystradllyn, Oerddwr a Nantmor i enwi ond y rhai.

GLYN BAINES

“Gwaith haniaethol i raddau, sy’n adlewyrchu, gobeithio, fy nghefndir yn ystod yr hanner can mlynedd ers i mi syrthio mewn cariad a chelf haniaethol. Mae wedi fy nghynnal bob cam o’r daith ac ‘rwyf, yn 90 oed, yn dal i deimlo’r un wefr, ac mae agor y drws i’r gweithdy fel mynd i fyd hud a lledrith.”

HELEN BAINES

“Daw’r ysbrydoliaeth o’r tirlun o’m cwmpas. Byddaf yn crwydro llawer yn Oerddwr, Beddgelert, ardal fy nghartre’. Caf bleser yn defnyddio cyfrwng cymysg naill ai yn yr awyr agored neu yn y stiwdio – sydd yn wynebu’r Moelwynion, Cnicht a Lliwedd i’r pellter. Mae lliw yn bwysig yn fy ngwaith a byddaf yn mwynhau yn arbennig cyfleu glasau tywyll y mynyddoedd ac amrywiol wyrddni’r tir. Ceir yma farciau a chrafiadau trwy haenau o bastel a phaent a daw llinellau pendant i’r amlwg i gyfleu gorwelion a waliau cherrig ar draws caeau.”

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf

01 February - 29 March 2025

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.