Ymunwch â ni ar Fawrth 1af ar gyfer Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor! Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1 PM o Storiel, yn mynd ymlaen o amgylch y stryd fawr, ac yn gorffen yn yr eglwys gadeiriol, gyda band pres yn arwain y ffordd! Ar ôl yr orymdaith, beth am alw heibio siop goffi Storiel i fwynhau paned o de ac archwilio ein detholiad o anrhegion lleol a rhai wedi’u gwneud â llaw.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Ffair Natur Bangor
12 September 2026Mae gan y ffair hon, sy'n addas i deuluoedd, lawer o gyfleoedd i chi archwilio eich cysylltiad â byd natur.
Dosbarth Meistr Mewn Marmori
19 September 2026Mae'n fraint gwahodd yr artist Erin Hughes i wneud gweithdy fydd yn arddangos rhai o'r technegau mae hi wedi eu defnyddio yn ei arddangosfa diweddar Lloriog/Gwallus sydd yn arddangos tan Medi 26 yn Storiel .
Casi + Al Morrison
24 September 2026Yn rhan o raglen cerdd, celf a llen Cadeirlan Bangor: DON IAU, dyma Storiel yn cyflwyno cyngerdd bythgofiadwy. Dyma gyfle i glywed perfformiad byw o record hir gyntaf y cerddor o Fangor, sef Plentyn yr Haul gan Casi. Bydd cefnogaeth ar y diwrnod gan y gitarydd o Fethesda, Al Morrison.