Dewch i ddarganfod celfyddyd caligraffi fodern yn ein gweithdy i ddechreuwyr.  Bydd y dosbarth ymarferol yma’n rhoi’r dulliau a’r technegau i chi ddechrau creu llythrennu hardd fydd yn dyrchafu unrhyw brosiect, o wahoddiadau i addurniadau i’r cartref.

Bydd ein caligraffydd profiadol, Rebecca Woodhall o Epiphany Lettering, yn arwain y gweithdy a byddwch yn dysgu am hanfodion caligraffi fodern, gan gynnwys sut i ddal a defnyddio nib pigog hyblyg ac inc, ffurfio llythrennau a’u cysylltu i greu geiriau a brawddegau.  Bydd maint bychan y dosbarth yn sicrhau y bydd pawb yn cael sylw unigol, a byddwch felly yn derbyn adborth personol a chymorth fel y byddwch yn ymarfer ac yn mireinio eich sgiliau.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, a byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau. Cost y gweithdy yw £45 yr un, sy’n ei wneud yn ffordd fforddiadwy i ddysgu sgil newydd a chyfarfod â phobl greadigol eraill.  Dewch i ymuno â ni a darganfod a mwynhau caligraffi fodern!

Y cwbl y byddwch ei angen ydi chi eich hun.  Byddwn yn darparu lluniaeth a bydd y gweithdy yn para am 2.5 awr. Mae eich tocyn yn cynnwys pecyn caligraffi fodern i fynd efo chi adre i barhau i ymarfer, mae hwn yn cynnwys:

>Llyfr Gwaith

>Nib pigog hyblyg

>Daliwr nib/pen ysgrifennu

>Pot Inc

>Cerdyn A5 ar gyfer dyfyniad

Cysylltwch â Rebecca at [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cadwch eich lle yn https://www.eventbrite.co.uk/e/beginners-modern-calligraphy-workshop-tickets-768974582677

Tocynnau £45