Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Gweithdy Celf a Cherdd gyda Elin Alaw
12 - 15 August 2025Gweithdy celf a barddoniaeth dan ofal Elin Alaw. Dewch i ddarlunio tamaid bach o hanes bro'r chwareli, a hynny mewn cyfrwng cymysg. Cawn gyfle i drafod ffurf ac ansawdd hen dun bwyd chwarelwr, ac arbrofi wedyn efo golosg a dyfrliw i ddod â bywyd i'n lluniau. Yn olaf, byddwn yn ymgorffori englyn Glan Tecwyn i'n gwaith. Sesiwn dwyawr, addas i blant 8 oed a hŷn, a chroeso i bob rhiant gymryd rhan hefyd - does dim angen profiad blaenorol o greu celf! Niferoedd cyfyngedig felly archebwch eich lle ymlaen llaw.

Sesiynau Cerddoriaeth LLIFT
26 July - 25 October 2025Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.

Cyfarfodydd Nintendo Gogledd Cymru
16 August - 13 December 2025Mae’n bleser croesawy mudiad Nintendo North Wales yn ol i Storiel am pnawn o Gemau, Gwobrau a Gweithio ar y Cyd. Dewch ach Switch ,DS neu Game Boy gyda chi i cael cymeryd rhan mewn cystadleuaeth Gemau. Croeso cynnes i Bawb