Ymunwch a ni ar gyfer y gweithdy gwneud doliau gydag Carys Anne Hughes yn STORIEL.

Mae archebu lle yn hanfodol! Ffoniwch STORIEL ar 01248 353368 i gadw eich lle nawr!

Llun dol wedi’i gwneud gan yr artist

Tocynnau £12

“Dwi yn Arlunydd Celf Gain o Gymru sy’n defnyddio amrywiaeth o brosesau creadigol, paent, print, pwytho, ailwampio teganau a gwrthrychau a thecstilau dwi’n dod ar eu traws i greu cerfluniau sy’n ymwneud â’r teimladau o ofn, gwrthod a cholli.  Mae’r gwaith yn defnyddio straeon a metaffor y tylwyth teg i gysylltu gyda phrofiadau emosiynol tywyllach y gwyliwr.  Dwi’n defnyddio doliau – babi moel, cyrff meddal gyda breichiau a choesau plastig, doliau tywod gyda phennau serameg – yn enwedig rhai a ddefnyddiwyd a rhai a adawyd ac y dof ar eu traws ar hap.  Dwi ddim yn datgymalu pob tegan; dwi’n cadw rhai fel yr oeddent pan ddes i ar eu traws er mwyn eu darlunio. Dwi’n gwneud cofnod o’r rhai a ddatgymalwyd drwy ddarlunio pob cam o’r broses.  Nod y gwaith datgymalu fforensig yma yw gweld beth sydd o dan yr wyneb cyn gwneud penderfyniad creadigol i ail-adeiladu.  Wrth ailgylchu teganau a doliau rydych yn cipio ac yn newid eu storïau ac yn cysylltu’r gwyliwr â stori newydd.  Mae hanes a pherthynas y gwylwyr â doliau, teganau a storïau o’u plentyndod yn effeithio ar eu profiad o’r gwaith, yn creu gofod i ymgysylltu’n bersonol a phreifat.  Fel arlunydd a thrwy fy ngwaith does gen i ddim ofn ymchwilio i’r cilfachau tywyll sydd angen eu diwygio.  Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn edrych ar beintio, eto gan weithio gyda haenau o’r un thema sef trawma plentyndod”