Mae’n fraint cael gweithio ar y cyd hefo Pontio ar Ŵyl Môr i gyflwyno gweithdy difyr hefo artist lleol .

Bydd Cyfle i weld y technegau argraffu Siapanaidd GYOTAKU gyda’r artist Jane Evans yn Storiel, Amgueddfa Gwynedd o 11.30 hyd at 1.30 ar Fehefin yr 8fed.

Mae’r dechneg Gyotaku wedi gael ei ddefnyddio yn Siapan ers 1862 ac mae yn ffordd unigryw i ddogfennu creaduriaid y môr drwy roi haen o inc arbennig ar gnawd y creadur ai ymrwymo hefo defnydd .

Mae’r artist Jane Evans sydd wedi sefydlu ym Mhorthaethwy ers 2013 ac wedi arddangos ei gwaith yn rhyngwladol a bydd hwn yn gyfle gwych i weld yr artist yn arddangos y dechneg argraffu unigryw yma.

Mae mynediad i’r gweithdy am ddim. Dewch yn llu .

Gweithdy Gyotaku hefo Jane Evans / Gyotaku Workshop with Jane Evans Tickets, Sat, Jun 8, 2024 at 11:30 AM | Eventbrite

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf

Prifysgol Bangor: 140 mlynedd o Gasglu Celf

01 February - 29 March 2025

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd gan y ‘Times Higher Education’ yn 2005, mae casgliad celf Prifysgol Bangor ymhlith y deg casgliad celf gorau yn y Brifysgol yn y DU. Mae'r casgliad celf yn cynnwys tua 650 o weithiau, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 21ain ganrif, yn ased artistig a diwylliannol pwysig i'r Brifysgol ac i ogledd Cymru gyfan. Mae'r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol a'i chelf drwy arddangos uchafbwyntiau o'r casgliad.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.