🔮Dewch i ddarganfod trysorfa o swynion, defodau, ac ymarferiod hudolus i ddefnyddio o ddydd i ddydd.

Wedi ei hysbrydoli gan hanes hudoliaeth werinol Cymru, ond wedi cael ei sefydlu yn y byd modern. Yn ystod y gweithdy yma dysgwch sut i greu swynion amddiffynnol, sut a pham i adeiladu allor ar gyfer bob math o ddefnyddiau, a hefyd sut i edrych i mewn i’r dyfodol.

Argaeledd Cyfyngedig! Archebwch yma

https://www.eventbrite.co.uk/e/957200551617?aff=oddtdtcreator

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Yr Apêl Heddiw: Parhau A’r Daith at Heddwch

14 June 2025

Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.