Cwmni bach wedi’i ffurfio gan ddwy addysgwyr sy’n angerddol am gelf a chrefft ym myd natur ydy Y Pethau Bychain.

“Rydym wedi ymrwymo i hybu ac addysgu plant a phobl ifanc am dreftadaeth a diwylliant Cymru drwy weithgareddau creadigol ac addysgol. Mae ein cariad at greu a’n balchder yn hanes Cymru yn ysbrydoli ein gwaith. 

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn dod i Storiel ar gyfer sesiwn grefft arbennig! Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar thema Hydref a Chalan Gaeaf traddodiadol Cymreig.

Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn adross stori’r Gwylltgi ac yn cynnal sesiwn grefftau gan ddefnyddio adnoddau naturiol. Bydd plant a’u teuluoedd yn cael cyfle i greu crefftau unigryw yn yr ardal allanol, gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o fyd natur. Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl wrth i ni ddathlu’r tymor mewn ffordd draddodiadol a chreadigol”

Gweithgareddau yn cynnwys:

  • Darlun y nos (Ladi Wen) gyda ffeltio gwlyb
  • Dyfrlliw- cysgod y Gwyllti
  • Pypedau llwyau bren gwrachod Llanddona
  • Ioga thymhorol yn yr ardal allanol 

Sesiwn 1

https://www.eventbrite.co.uk/e/953200647797?aff=oddtdtcreator

Sesiwn 2

https://www.eventbrite.co.uk/e/953204439137?aff=oddtdtcreator

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Arddangosfa Gelf hawlfraint Rhodri Jones

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones

07 September - 02 November 2024

COFIO: Ffotograffiaeth gan Rhodri Jones, gyda chelf ac archifau sy'n dathlu bywyd a gwaith John Ellis Jones (1929-2023), Darlithydd Clasuron a chyn guradur anrhydeddus yr amgueddfa. "Does dim poen mor fawr â'r cof am lawenydd yn y galar presennol" Aeschylus⁠ Ffocws yr arddangosfa yw detholiad o ffotograffau gan Rhodri Jones sydd yn llyfr COFION.  Maen nhw'n ffotograffau teimladwy, llawer o'i dad John Ellis Jones, yn dilyn marwolaeth ei fam, Renée, ac wrth iddo ddatblygu dementia.  Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys traethodau byrion gan Angharad Price a Manon Steffan Ros, yn ogystal â cherddi dethol sy'n archwilio colled a galar.  Mae'r llyfr yn archwiliad o alar sy'n bersonol ac yn gyffredinol gan ddod ag ymatebion gwahanol ynghyd sy'n troi galar yn sgwrs.