Mae’r arddangosfa’n rhoi sylw i ymarfer y brodyr a’r cydweithio rhyngddynt; byddent yn aml yn cydweithio drwy’r syniadau oeddent yn eu rhannu. Mae’n dathlu cyflawniad y diweddar Paul Davies oedd wedi ymgartrefu ym Mangor. Er na all ymdrin â’i holl waith, ei syniadau a’i gyfraniad, mae’n rhoi awgrym o’i ddylanwad a’i berthnasedd.

Mae sefydliad Beca (tua 1974) yn berthnasol iawn i Peter; fe’i henwid mewn teyrnged i Helyntion Beca (1841-1843), lle ceisid cyfiawnder cymdeithasol yng nghefn gwlad de orllewin Cymru. Datblygodd Beca yn grŵp cydweithredol eithaf llac o artistiaid. Heriwyd delweddau Cymreig mewn amryw o gyfryngau, a bu hyn o gymorth i roi materion Cymreig megis hunaniaeth, iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth ar agenda’r celfyddydau gweledol.

Mae artistiaid Beca yn dal i arddangos eu gwaith ymhell ac agos mewn gwahanol ffurfiau a chyd-destunau, yn arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Lansiwyd ‘Gwrthryfel Beca’ trwy arddangosfa undydd BECA gyda gwaith gan Paul Davies, Pete Telfer, Ivor Davies, Iwan Bala, Sara Rhoslyn Moore a Peter Davies.