Casgliad o bortreadau mewn olew sy’n rhoi cipolwg ar gymeriad hudolus y marionét gan hefyd adlewyrchu eu pwysigrwydd theatrig.
![](https://www.storiel.cymru/cymru/wp-content/uploads/sites/2/2018/02/James-2.jpg)
Casgliad o bortreadau mewn olew sy’n rhoi cipolwg ar gymeriad hudolus y marionét gan hefyd adlewyrchu eu pwysigrwydd theatrig.
"Yr arddangosfa fechan hon o baentiadau bywyd llonydd yw fy ymateb i rai o’r darnau serameg yng nghasgliad Storiel a Phrifysgol Bangor. Mae'r gwrthrychau tŷ pob dydd hyn a wnaed gan mlynedd neu ddau gan mlynedd yn ôl yn sôn am fywyd – y bobl a greodd batrymau a dyluniadau bywiog y jygiau, mygiau, platiau a phowlenni hyn, a’r bobl oedd yn berchen arnynt ac yn eu defnyddio."
Arddangosfa o ffolio, paentiadau a printiau sy’n archwilio Coedwigoedd Glaw Celtaidd Gogledd Cymru a Choedwig yr Is-Antarctig, De Chile.
Yn ystod ei oes, cynhyrchodd Brangwyn dros 500 o ysgythriadau, 340 o engrafiadau pren, 160 o lithograffau ac 130 o blatiau llyfrau o ryw fath. Mae'r detholiad bychan o brintiau sydd yn yr arddangosfa hon yn ceisio dangos rhai o gryfderau a sgiliau Brangwyn y gwneuthurwr printiau.