Prosiect Hel Trysor, Hel Straeon – prosiect archaeoleg cymunedol sydd yn gweithio hefo grwpiau cymunedol i gynorthwyo i ddehongli casgliadau a dod a nhw’n agosach i’r gorffennol. Mae Hel Trysor yn brosiect partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), ac mae’n cael ei ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Merched yn Hawlio Heddwch
12 April - 21 June 2025Dewch i ddarganfod hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 a rôl ganolog menywod Cymru wrth weithio dros heddwch. Gan ddod â chelf ac archifau at ei gilydd, mae straeon y menywod hynod hyn yn ysbrydoledig ac mor berthnasol heddiw â chan mlynedd yn ôl.

Shani Rhys James & Stephen West
12 April - 28 June 2025Mae'r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae'r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.

Gweithdai Merched yn Hawlio Heddwch
16 April - 07 June 2025Cyfres o gweithdai i cyd-fynd hefo arddangosfa Merched yn Hawlio Heddwch