Prosiect Hel Trysor, Hel Straeon  – prosiect archaeoleg cymunedol sydd yn gweithio hefo grwpiau cymunedol i gynorthwyo i ddehongli casgliadau a dod a nhw’n agosach i’r gorffennol. Mae Hel Trysor yn brosiect partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru), ac mae’n cael ei ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.