Ymunwch â’r artist adnabyddus Catrin Williams am gyfres gweithdai tair rhan, yn hamddenol ac ysbrydoledig, wedi’u cynllunio i’ch tywys yn raddol drwy’r broses greadigol o ddarlunio cychwynol i gelf deunydd gweadog. Yn y sesiwn gyntaf, byddwch yn dysgu technegau syml a phleserus ar gyfer ddarlunio i ddal eich syniadau ar bapur. Mae’r ail weithdy;n cyflwyno dulliau paentio i roi bywyd i’ch ddarlun gyda lliw a dyfnder. Yn y sesiwn olfa, bydd Catrin yn dangos sut i ychwanegu ffabrig a sewnio i greu haenau tactil hardd, gan drawsnewid eich gwaith yn ddarnau cyfryngau cymysg unigryw. Mae’r gweithdy dywieithog hwn yn berffaith i’r rhai sy’n dymuno archwilio creadigrwydd a rhoi cynnig ar sgiliau artistig newydd mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Pier y Garth Bangor
14 August 2026Gyda Pier y Garth Bangor yn dathlu 130 o flynyddoedd o fodolaeth, mae'n bleser gwahodd Chris Conway i rannu hanes y pier o'i hadeiladu yn 1926 a'r gwaith o adfer ac adnewyddu dros y blynyddoedd.
Gweithgareddau i Blant
21 July - 29 August 2026Gweithgareddau galw heibio i'r teulu yn ystod y gwyliau haf!
Corlannau’r Carneddau
10 September 2026Mae dros 3,000 o corlannau defaid ar draws gogledd-orllewin Cymru, ond dim ond tua 100 ohonynt sydd yn gorlannau cymunedol mawr y mae ffermwyr wedi'u defnyddio i ddosbarthu'r llwyth o ddefaid sy'n pori ar y mynyddoedd dros yr haf. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar sut mae'r corlannau mawr hyn yn gweithio, pryd, pam a ble y codwyd hwy a sut maent yn ffitio i hanes a diwylliant ffermio mynyddoedd Cymru - ac hefyd sut y maent yn gysylltiedig ag ynys oddi ar arfordir Croatia. Mae llawer ohonynt bellach yn ddirywio a adfeilio ond byddwn yn gorffen y sgwrs trwy weld sut y defnyddir rhai ohonynt hyd heddiw, gan barhau'r patrwm a'r rhythm o gasglu defaid o'r mynyddoedd sydd wedi mynd yn ôl dros 300 mlynedd.