Mae ‘Y BAE’ yn ymchwiliad o’r ardal y cefais fy magu ynddi, ardal Hirael o Fangor, ardal a siapiwyd gan y môr a llechi.   Roedd arogl y môr (a’r mwd yn ystod hafau poeth) yn gryf ac yn ein hatgoffa am ba mor agos yr oeddem i’r eigion.  Ar lanw uchel, mae rhannau mawr o Hirael o dan lefel y môr ac o dan fygythiad llifogydd.   Cafodd y gwaith ei dywys gan ystod o bwyntiau cyfeirio emosiynol a diwylliannol. Mae’r atgofion o edrych allan ar y môr a’r gorwel i’w gweld yn amlwg yn y gyfres yma o waith.   Rwyf wedi ceisio creu amgylchedd sy’n adlewyrchu fy nheimladau ynglŷn â beth oedd, a sydd bellach wedi diflannu.