Mae’r artist graffeg a argraffydd Paul Peter Piech yn cael ei adnabod am ei waith dylunio posteri gwleidyddol trawiadol, gyda neges ei waith mor wir nawr ar diwrnod a argraffwyd. Gyda rhieni o’r Wcrain, magwyd  Piech yn yr UDA cyn gwario rhan sylweddol o’i fywyd yng Nghymru, a’i flynyddoedd olaf yn Porthcawl. Tra yng Nghymru cariodd mlaen hefo gwaith ymgyrchu a hefyd ymdrochi yn diwylliant Cymraeg a’r iaith i greu corff o waith atyniadol. Fel rhan o arddangosfa Paul Peter Piech: Posteri Heddwch, mae’n fraint cael gwahodd Jim Creed, hanesydd celf, casglwr ac awdurdod ar waith a bywyd y diweddar artist i manylu ar ei waith, ysbrydoliaeth a dylanwad.

Sgwrs yn Saesneg fydd hwn.

Dydd Gwener Mawrth 13, am 2 y prynhawn.

Oherwydd y galw, mae Jim Creed wedi cytuno rhoi’r darlith yma eto.  Bydd cynnwys y ddarlith yr un peth a’r ddarlith cyntaf (4ydd Chwefror).

I cadw eich tocyn, am ddim, dilynwch y linc isod:

Piech : Argraff ar yr Argraffwr / Perspectives on the Printmaker Tickets, Fri, Mar 13, 2026 at 2:00 PM | Eventbrite