Yn dathlu cyswllt diwylliannol mae arddangosfa o waith gan artistiaid o Fangor, Soest a Chwaer Ddinasoedd eraill yn nodi hanner canmlwyddiant gefeillio Dinas Bangor gyda Soest, yr Almaen. Mae gefeillio tref yn galluogi perthynas arbennig rhwng dwy gymuned, gan hybu dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Yr Apêl Heddiw: Parhau A’r Daith at Heddwch
14 June 2025Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.

Sesiynau Cerddoriaeth LLIFT
26 July - 25 October 2025Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.

Llif(T) yn Cyflwyno: John Bisset
14 June 2025Mae Llif(T) yn falch o gyflwyno un arall yn ei gyfres barhaus o sesiynau cerddoriaeth arloesol ac arbrofol, a fydd yn cynnwys y perfformiwr hynod dalentog, John Bisset.