Cafodd Stuart Neesham ei eni yn yr Alban a’i fagu yng Nghilgwri.  Bu’n astudio yn Ysgol Gelf Caer cyn troi am dde Cymru i astudio yng Ngholeg Celf Casnewydd.  Yn 1972, dilynodd Stuart ei ddarpar wraig, Lois Morris i Fangor. Roedd Lois newydd gael ymestyn ei chytundeb ar brosiect gyda’r Prifysgol Cymru ym Mangor fel dylunydd ac arlunydd ar gyfer llyfrynnau Cymraeg i ysgolion uwchradd.

Sefydlodd y Neeshams gwmni dylunio Enfys yn 1972, gan brynu offer sgrin-argraffu gan John Murgatoyd, y ffotograffydd o Fae Colwyn.  Hen fecws yn Rachub, Bethesda oedd cartref Enfys i ddechrau, cyn symud i safle hen siop cigydd ar Ffordd Caernarfon, Glanadda, Bangor.

Mae’r arddangosfa hon yn dod a rhai o bosteri a gwaith celf chwedlonol a wnaed gan Stuart a Lois Neesham o argraffdy Enfys sy’n rhoi cipolwg ar y sîn gerddorol ym Mangor yn y 1970au.