£40

Ymunwch â’r gwneuthurwyr basgedi, Karla Pearce, i roi cynnig ar y grefft o wehyddu helyg mewn amgylchedd cefnogol ac ymlaciol. Yn ystod y gweithdy hanner diwrnod hwn, byddwch yn cael eich tywys drwy dechnegau gwehyddu amrywiol er mwyn creu bwydwr adar o helyg i ddal peli saim- gallwch fynd â hwn adref gyda chi wedyn i’w hongian yn yr ardd. Hefyd, byddwch yn dysgu sut i wehyddu helics er mwyn creu gwas y neidr addurniadol i’w ddangos y tu mewn neu’r tu allan. Mae’r gweithdy hwn, sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr, yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar weithio gyda helyg a chwrdd â phobl eraill sydd â diddordeb yn y grefft dreftadaeth hon.

Darperir yr holl deunyddiau ac offer ac mae lluniaeth wedi’i gynnwys yn y pris. Cofiwch ddod â chinio efo chi.

Archebu yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/sesiwn-blasu-gwehyddu-helyg-willow-weaving-taster-session-tickets-929705984627?aff=oddtdtcreator&_gl=1%2Ap65gbi%2A_up%2AMQ..%2A_ga%2AMjUyMDUxNDcwLjE3MTg5NzkxNjk.%2A_ga_TQVES5V6SH%2AMTcxODk3OTE2OC4xLjEuMTcxODk3OTE4My4wLjAuMA..