Dewch i ddarganfod a chware- AM DDIM!
Sesiynau crefft i deuluoedd pob dydd Mawrth 12:30-3yp yng ngwyliau’r ysgol- addas i blant o dan 12

Sesiynau crefft i deuluoedd pob dydd Mawrth 12:30-3yp yng ngwyliau’r ysgol- addas i blant o dan 12
Perfformiad cerddorol gan y deuawd Mirror gaze
Gweithdy celf a barddoniaeth dan ofal Elin Alaw. Dewch i ddarlunio tamaid bach o hanes bro'r chwareli, a hynny mewn cyfrwng cymysg. Cawn gyfle i drafod ffurf ac ansawdd hen dun bwyd chwarelwr, ac arbrofi wedyn efo golosg a dyfrliw i ddod â bywyd i'n lluniau. Yn olaf, byddwn yn ymgorffori englyn Glan Tecwyn i'n gwaith. Sesiwn dwyawr, addas i blant 8 oed a hŷn, a chroeso i bob rhiant gymryd rhan hefyd - does dim angen profiad blaenorol o greu celf! Niferoedd cyfyngedig felly archebwch eich lle ymlaen llaw.
Ymlaciwch yn y gweithdy ffeltio hwn ar gyfer oedlion. Byddwch yn dysgu technegau ffeltio gwlyb a ffeltio gyda nodwydd wrth i chi greu tirlun o wlân eich hun i fynd adref. Dewch â llun ar gyfer ysbrydoliaeth neu gadewch i'ch dychymyg neud y gwaith. Byddwch yn darganfod sut i gyfuno gweadau a lliwiau gan ddefnyddio ffibrau naturiol i roi bywyd i gelf. Nid oes angen unrhyw brofiad. Mae'r holl deunyddiau ar gael - dim ond angen dod â'ch creadigrwydd.