Sgwrs yn y Saesneg fydd hwn. Mae Sgwrs yn y Gymraeg gyda’r artist ar y 3ydd o Dachwedd am 18.30yh
Testun y sgwrs cyntaf mewn cyfres o sgyrsiau celfyddyd a drefnwyd gan fyfyrwyr cwrs Ysgol Gelf Bangor fydd sgwrs gyda’r artist, awdur, damcanwr a sylwebydd Iwan Bala. Mae ei corff o’i waith (yn weledol ac ysgrifenedig) wedi ei weld yn bresenoldeb deinamig yn ddiwylliant Cymru. O’i erthyglau cyson ym Planet ,mae wedi arddangos yn rhyngwladol, wedi bod yn rhan o sawl cydweithrediad traws-gyfryngol ac yn gymrawd sylfaenydd Prosiect Artistiaid /The Artists’ Project yn ogystal â bod yn aelod o’r Grŵp Artistiaid BECA. Wrth drafod ei yrfa yn ogystal â’i waith diweddar sy’n cydberthyn â’i arddangosfa gyfredol yn Storiel, Amgueddfa Gwynedd, Yr hen ddweud o’r newydd, bydd Iwan Bala yn trafod y 30 o weithiau celf newydd wedi’u hail-greu o’r rhai hynafol a oedd wedi bod mewn storfa, lle mae’r gwaith hynafol yn llywio’r gwaith newydd, gan gyfoethogi’r naratif gweledol ac emosiynol sy’n ymateb i’r hinsawdd wleidyddol yn y DU ac ymhellach. Tra bod pryderon byd-eang yn cael eu mynegi, mae’r artist yn dechrau ei archwilio, ei ‘nodiadau maes’, o safbwynt Cymru, ei wlad ei hun
Tocynnau ar gael YMA