These talks will be conducted through the medium of Welsh

Sgwrs Bür Aeth #1 ‘DDOE YN OL I DDYDDIAU DA – DISGO TEITHIOL MICI PLWM’

25.5.24 14:00

Y cyntaf o dri sgwrs gan arloeswyr yn sin cerddoriaeth Cymru. Gwariwch y pnawn yng nghwmni DJ Cymraeg Cyntaf: Mici Plwm. Sgyrsiau a hel atgofion am sin cerddoriaeth Cymru.

ARCHEBU: https://www.eventbrite.co.uk/…/sgwrs-bur-aeth-1-ddoe-yn

Sgwrs Bür Aeth #2 ” Teithiau cerddorol Dafydd Pierce “

1.6.24 14:00

Bydd yr ail sgwrs yn ymwneud hefo’r gitarydd a cynhyrchydd dawnys Dafydd Pierce. Dowch i wario y pnawn yn gwrando ar atgofion Dafydd wrth iddo drafod chwarae ar sessiynnau Chris Jagger yn Los Angeles , dychwelyd i Gymru a chwarae hefo Bran , sefydlu studio’s yn Croesor a Caerdydd a mwy.

Archebu: Sgwrs Bür Aeth #2 ” Teithiau cerddorol Dafydd Pierce ” Tickets, Sat, Jun 1, 2024 at 2:00 PM | Eventbrite

Sgwrs Bür Aeth #3 ‘Atgofion Eurof Williams o sin roc Cymru yn y1970au’

8.6.24 14:00

Bydd y sgwrs olaf yn y gyfres yn ymwneud hefo’r cerddor, cynhyrchydd a rheolwr bandiau Eurof Williams . Dowch i wario’r pnawn yn gwrando ar atgofion Eurof wrth iddo drafod dyddiau cynnar sin roc Cymraeg, Cynhyrchu a chyd sefydlu’r label Gwawr hefo Tony ac Aloma , cynhyrchu sioeau radio’r BBC , goruchwylio record Lleisiau gan fudiad Adfer . Rheoli’r Trwynau Coch a mwy.

Archebu: Sgwrs Bür Aeth #3 ‘Atgofion Eurof Williams o sin roc Cymru yn y1970au’ Tickets, Sat, Jun 8, 2024 at 2:00 PM | Eventbrite