Bydd yr ail sgwrs yn ymwneud hefo’r gantores Eleri Llwyd wrth iddi rhannu ei atgofion o sin byrlymus bandiau Aberystwyth, cyfrannu i’r bandiau roc a pop cynnar Y Nhw a’r Chwyldro. Cyfrannu clasuron i Sain gyda’i Ep (1971) a Albym arloesol Am Heddiw Mae Nghan (1977) tra recordio yn stiwdio Rockfield a Gwern afalu. Ennill cystadleuaeth Cân Disc a Dawn (Cân i Gymru) 1971 a cynrychioli Cymru yn y gŵyl band Gertaid gyntaf yn Cill Airne.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Gweithgareddau i Blant
21 July - 29 August 2026Gweithgareddau galw heibio i'r teulu yn ystod y gwyliau haf!
Corlannau’r Carneddau
10 September 2026Mae dros 3,000 o corlannau defaid ar draws gogledd-orllewin Cymru, ond dim ond tua 100 ohonynt sydd yn gorlannau cymunedol mawr y mae ffermwyr wedi'u defnyddio i ddosbarthu'r llwyth o ddefaid sy'n pori ar y mynyddoedd dros yr haf. Mae'r sgwrs hon yn edrych ar sut mae'r corlannau mawr hyn yn gweithio, pryd, pam a ble y codwyd hwy a sut maent yn ffitio i hanes a diwylliant ffermio mynyddoedd Cymru - ac hefyd sut y maent yn gysylltiedig ag ynys oddi ar arfordir Croatia. Mae llawer ohonynt bellach yn ddirywio a adfeilio ond byddwn yn gorffen y sgwrs trwy weld sut y defnyddir rhai ohonynt hyd heddiw, gan barhau'r patrwm a'r rhythm o gasglu defaid o'r mynyddoedd sydd wedi mynd yn ôl dros 300 mlynedd.
Bonnie Dobson a John Einerson
12 September 2026Mae'n fraint cael croesawu un o gantorion mwyaf allweddol ym mudiad cerddoriaeth werin poblogaidd yr 1950au hwyr, y gantores o Canada, Bonnie Dobson, wnaeth gyfansoddi'r anthem wrth-niwclear Morning Dew gaeth ei ryddhau ar ei halbwm Folk City yn 1962.