Cyfle i hel atgofion wrth i’r darlledwr Nic Parry drafod y cylchgrawn cerddorol Cymraeg Sgrech. Wedi ei sefydlu yn Ninorwig yn 1978 roedd y cylchgrawn yn rhoi sylw i sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog am 7 mlynedd, gyda’r cylchgrawn yn rhyddhau recordiau a chyflwyno nosweithiau gwobrwyo i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg. Ymunwch â sylfaenydd a phrif olygydd Sgrech, Glyn Tomos wrth iddo rannu hanesion niferus am y “Rolling Stone” Cymraeg!
< Yn ôl i Be Sy' Ymlaen