Mae’r arddangosfa hon yn dwyn ynghyd waith gan Shani Rhys James a Stephen West. Ar ôl byw a gyda’i gilydd am fwy na 45 mlynedd, mae’r ddau wedi canolbwyntio ar wahanol themâu a dulliau gweithredu yn eu hymarfer artistig. Mae gofod stiwdio y ddau – ar wahân ond dan un tô. Dyma weithiau sy’n cysylltu ac yn gwrthgyferbynnu. Mae’r arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y ‘gofod mewnol’; yn feddyliol ac yn gorfforol. Boed yn hunanbortreadau pwerus ac emosiynol Shani yn y stiwdio neu’r gegin, neu naratifau Stephen sy’n gofyn cwestiynau, sy’n archwilio persbectif ac yn lluniadu pensaernïaeth, ffigurau, coed ac anifeiliaid.

Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae’r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel.

Mae’r arddangosfa yma wedi bod yn bosib trwy nawdd CELF- Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

_______________________________________

Dyma linc i ffilm am yr arddangosfa sy’n cofnodi rhai o’r themau sy’n ysbrydoli Shani a Stephen.  Hyd y ffilm, 13 munud.  Ffilm wedi ei chreu gan Culture Colony.

https://youtu.be/11UrmPIJ4h8?si=wJMFTcKVfAz07Y8C

_______________________________________

Adnoddau Dysgu hwyliog gan yr artist Eleri Jones gallwch gneud fel teulu adref. Mae’r adnoddau wedi eu hysbrydoli gan waith Shani Rhys James a Stephen West sy’n yr arddangosfa.