Crëwyd y cyfanwaith trawiadol hwn gan ysgolion uwchradd ardal y dynodiad dan arweiniad yr artist Catrin Williams i ddathlu dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi gogledd orllewin Cymru. Bydd y gwaith yn mynd ar daith trwy’r cymunedau chwarelyddol.

Arianwyd y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd

Bu i’r prosiect gymryd lle rhwng Medi a Thachwedd 2021 gydag ysgolion Dyffryn Ogwen, Brynrefail, Dyffryn Nantlle, Eifionydd, Moelwyn ag Ysgol uwchradd Tywyn yn cymryd rhan. Mae’r celf tecstil gorffenedig 4 medr o led yn gyfanwaith o’r hyn a grëwyd yn y 6 ysgol.

Cychwynnodd taith y gwaith celf drwy’r cymunedau chwarelyddol yn Amgueddfa Lechi Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Fe’i gwelir ar hyn o bryd yn STORIEL nes 19 Mawrth, a’r lleoliad nesaf ar y daith yw Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul yn Nhywyn.

Meddai Catrin Williams….

Yn y gweithdai cychwynnol bu’r ysgolion yn edrych ar ddiwylliant y chwareli i ysbrydoli’r gwaith ac am fewnbwn hanesyddol. Gan ystyried diwydiant y llechi yn ei gyfanrwydd – dylanwad y llechi a’r creithiau gweledol ar y dirwedd, hanes y llongau, hanes a delweddau’r trenau, gweithio ar y graig, amser cinio yn y caban, y gymuned yn y capeli a’r bandiau pres – roedd modd datblygu delweddau o’r ardaloedd hyn gan blethu’r hanesion drwy’r gwaith i gyd. Crëwyd delweddau lliwgar aml-gyfrwng gan gyd-gynhyrchu un darn mawr o gelf mewn tecstilau i ddathlu’r hanes, a’r ardaloedd, y straeon a’r diwylliant.