Detholiad o brosiectau ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd a gaiff ei adnabod fel ‘LleCHI’. Mae’r enwebiad a  LleCHI yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun,  cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd.

Nawdd gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig.

Yn ystod Haf 2021 bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd. Byddai hyn yn golygu fod yr ardal yn Dirwedd Ddiwylliannol gwirioneddol bwysig, yr un mor bwysig â’r Taj Mahal, neu Gôr y Cewri. Byddai’r ardal yn ymuno efo safleoedd Treftadaeth Byd Blaenafon a Dyfrbont Pontycysyllte i gydnabod y cyfraniad pwysig a wnaeth Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol, ac yn ymuno â Chestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd fel ail safle Treftadaeth Byd Gwynedd.

Mae’r dirwedd yn arddangos stori anhygoel yr esblygiad o gymdeithas amaethyddol yr ucheldir i un wedi’i ddominyddu gan y diwydiant llechi; gyda trefi, chwareli a chysylltiadau trafnidiaeth yn naddu eu ffordd trwy fynyddoedd Eryri i lawr i’r porthladdoedd eiconig. Tyfodd cymunedau bywiog o amgylch y chwareli. Mae bob un o’r chwe ardal yn cynnwys esiamplau o sut mae pobol leol wedi medru cymryd mantais o gyfleoedd newydd, ac o sgiliau newydd, er mwyn creu dyfodol. Roedd y Gymraeg yn sylfaen i’w diwylliant, eu crefydd a’u gwleidyddiaeth.

Cyngor Gwynedd, ar ran ystod o bartneriaid sydd wedi datblygu’r enwebiad ac ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, sicrhawyd nawdd trwy Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig i weithio ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd er mwyn ceisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau hynny trwy dreftadaeth. Mae’r gwaith yma yn cael ei adnabod fel ‘LleCHI’.

Mae’r enwebiad a LleCHI yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun, cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd.

Dewch i ddysgu mwy…

www.llechi.cymru

Nodwch: Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus. Ewch i wefan www.adventuresmart.uk/cy er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.