Dyddiau yma mae Calan Gaeaf yn noson lon lawenydd a hwyl i blant. Amser iddyn nhw redeg rownd y gymuned fewn gwisgoedd dychrynllyd, yn casglu pethau da wrth iddyn nhw weiddi “trick or treat”. Mae lawer yn credu fod hanes Calan Gaeaf yn un sy’n dod yn wreiddiol o America. Ond, mae Calan Gaeaf wedi cael ei ddathlu yng Nghymru am ganrifoedd!
Yn y gweithdy yma fe wnawn ni ddarganfod traddodiadau Calan Gaeaf hollol Gymraeg, a hefyd edrych i mewn i len gwerin i wneud ac ysbrydion, bwganod, gwrachod, Tylwyth Teg a mwy! Dewch, a ymunwch a ni i weld sut allai ddiwylliant hen Gymru ysbrydoli ni heddiw! Fydd y gweithdy yn cael ei gynnal gan Swynwraig a Phagan Celtaidd modern, felly fydd cyfle hefyd i weld sut allai’r coelion hen yma cael ei ddefnyddio fewn ymarfer hudolus neu lwybr ysbrydol modern.
Archebu yn hanfodol. Ffoniwch 01248 353368.