Mae arddangosfa ‘Twyllo’r Llygad’ wedi agor yma yn Storiel, casgliad o gwiltiau bychan cyffrous ar thema a wnaed gan aelodau Grŵp Cwiltiau Cyfoes, (rhan o’r QGBI), ynghyd â gwaith gan ddau artist tecstil gwadd, sef Dorothy Russell a Liesbeth Williams. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda Dorothy a Liesbeth yma yn Storiel, mwy o fanylion yn y poster (wedi atodi).
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Dathliad Gwreiddiau Gwyllt gyda Y Pethau Bychain
02 July 2025
SGWRS SGRECH ! Glyn Tomos , Nic Parry a hanes cylchgrawn cerddoriaeth Cymru
01 November 2025Cyfle i hel atgofion wrth i’r darlledwr Nic Parry drafod y cylchgrawn cerddorol Cymraeg Sgrech. Wedi ei sefydlu yn Ninorwig yn 1978 roedd y cylchgrawn yn rhoi sylw i sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog am 7 mlynedd, gyda’r cylchgrawn yn rhyddhau recordiau a chyflwyno nosweithiau gwobrwyo i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg.

Clare Marie Bailey: Sgwrs Artist
08 November 2025Mae Clare Marie Bailey yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau sy'n cael ei haddo am ei hunan-bortreadau a ffilmiau analog swrreal, sydd yn creu bydau amgen y tu hwnt i realiti bob dydd. Ganwyd a chodi ar Ynys Môn, mae ei gwaith yn cael ei ddylanwadu'n ddirfawr gan sinema, eiconaidd hudolus, a diddordeb mewn themâu ail-greadigaeth a doppelgängers.