Mae arddangosfa ‘Twyllo’r Llygad’ wedi agor yma yn Storiel, casgliad o gwiltiau bychan cyffrous ar thema a wnaed gan aelodau Grŵp Cwiltiau Cyfoes, (rhan o’r QGBI), ynghyd â gwaith gan ddau artist tecstil gwadd, sef Dorothy Russell a Liesbeth Williams. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda Dorothy a Liesbeth yma yn Storiel, mwy o fanylion yn y poster (wedi atodi).
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Pontydd Dynol • Human Bridges • Menschliche Brücken
09 September - 14 October 2023Yn dathlu cyswllt diwylliannol mae arddangosfa o waith gan artistiaid o Fangor, Soest a Chwaer Ddinasoedd eraill yn nodi hanner canmlwyddiant gefeillio Dinas Bangor gyda Soest, yr Almaen. Mae gefeillio tref yn galluogi perthynas arbennig rhwng dwy gymuned, gan hybu dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau.

GWEITHDY: Traddodiadau Calan Gaeaf gyda Mhara Starling
21 October 202313:00-15:45
