Hawlio tocynnau yma: UMCB 50 Dafydd Meirion Roberts :Dyddiau Coleg – Atgofion drwy Gerddoriaeth Tickets, Sat, Jan 17, 2026 at 2:00 PM | Eventbrite
Gyda’r band gwerin Ar Log yn dathlu hanner can mlynedd ers ei sefydlu yn 1976, mae’n fraint cael croesawu Dafydd Meirion Roberts i rannu ei atgofion drwy gerddoriaeth o’i gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, a dathlu sefydliad Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yr un flwyddyn.
Bydd y sgwrs yn gyfle i glywed atgofion Dafydd o’i gyfraniad i ddiwylliant byrlymus cerddoriaeth Cymraeg tra roedd yn fyfyriwr. Bydd y daith gerddorol yma yn dechrau gyda Dafydd yn ymuno hefo’i frawd Gwyndaf yn y band roc trwm, Cristnogol, Yr Atgyfodiad, yn canu’r ffliwt. Yn dilyn hyn ymunodd gyda’r grŵp Brân, lle chwaraeodd y drymiau a’r ffliwt, gyda John Gwyn, Nest Howells, a’i frawd, Gwyndaf. Cystadlodd Brân yn y gystadleuaeth Gan i Gymru yn 1975, ac ennill, ac yna cael y cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Killarney. Enillodd Brân yn fanno hefyd gan guro’r grŵp Clannad.
Tra’n fyfyriwr, chwaraeodd Dafydd yn un o sioeau teithiol cyntaf Theatr Gwynedd, Harping Around, cyn dod yn gerddor amlwg yn sesiynau recordio Sain yn eu stiwdio yng Ngwern Afalau, gan chwarae ar nifer o senglau ag LP’s artistiaid adnabyddus fel Dafydd Iwan, Mynediad Am Ddim a Miss Asbri, Alwen Pritchard, cyn recordio albym cyntaf Brân, Ail Ddechrau. Bydd y sgwrs hefyd yn trafod cyfraniad Dafydd, fel myfyriwr, i’r ymgyrch am statws yr iaith yn y Brifysgol, cyn ffurfio’r band gwerin poblogaidd Ar Log.
