Ymlaciwch yn y gweithdy ffeltio hwn ar gyfer oedlion. Byddwch yn dysgu technegau ffeltio gwlyb a ffeltio gyda nodwydd wrth i chi greu tirlun o wlân eich hun i fynd adref. Dewch â llun ar gyfer ysbrydoliaeth neu gadewch i’ch dychymyg neud y gwaith. Byddwch yn darganfod sut i gyfuno gweadau a lliwiau gan ddefnyddio ffibrau naturiol i roi bywyd i gelf. Nid oes angen unrhyw brofiad. Mae’r holl deunyddiau ar gael – dim ond angen dod â’ch creadigrwydd.

Amdan yr Artist

“Rydw i’n artist tecstiliau gyda mwy na 10 mlynedd o brodiad o gynnal gweithdai creadigol ar gyfer oedolion a phlant. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar y cyswyllt rhwng celf a lles meddyliol, ac rydw i’n ffocysu ar greu atmosffer lle gall pobl ymlacio, bod yn greadigol, a mynegi eu hunain trwy greu. Rydw i’n gweithio’n bennaf heddychlion o weithio gyda deunyddiau naturiol. Rydw i ar hyn o bryd yn astudio am radd mewn cwnsela, ac rydw i’n mwynhua gwehyddu fy niddordebau creadigol a lles emosiynol i gynnig gweithdai sy’n gwella lles trwy ddysgu technegau artistig newydd.

ARCHEBWCH YMA

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.