Ymunwch â’r artist adnabyddus Catrin Williams am gyfres gweithdai tair rhan, yn hamddenol ac ysbrydoledig, wedi’u cynllunio i’ch tywys yn raddol drwy’r broses greadigol o ddarlunio cychwynol i gelf deunydd gweadog. Yn y sesiwn gyntaf, byddwch yn dysgu technegau syml a phleserus ar gyfer ddarlunio i ddal eich syniadau ar bapur. Mae’r ail weithdy;n cyflwyno dulliau paentio i roi bywyd i’ch ddarlun gyda lliw a dyfnder. Yn y sesiwn olfa, bydd Catrin yn dangos sut i ychwanegu ffabrig a sewnio i greu haenau tactil hardd, gan drawsnewid eich gwaith yn ddarnau cyfryngau cymysg unigryw. Mae’r gweithdy dywieithog hwn yn berffaith i’r rhai sy’n dymuno archwilio creadigrwydd a rhoi cynnig ar sgiliau artistig newydd mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.

ARCHEBWCH YMA

Wefan Catrin

Instagram Catrin

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.