Roedd Paul Peter Piech (1920-1996) yn artist, gwneuthurwr printiau a chyhoeddwr Americanaidd a oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.  Yn artist toreithiog sy’n adnabyddus am ei dorluniau leino a’i dorluniau pren, eiriolodd yn ddiflino dros gyfiawnder cymdeithasol. Mae gan Coleg Cambria yn Wrecsam un o’r casgliadau cyhoeddus mwyaf o’i waith.  Gofynnon ni i dri ymarferydd creadigol sydd eu hunain yn gweithio dros heddwch; Sian Northey, Seran Dolma a Llinos Griffin i ddewis gweithiau celf a oedd yn atseinio gyda nhw o gasgliad y Coleg.

Mae’r tair yn rhan o brosiect Byw mewn Heddwch, sy’n brosiect a ariennir gan Llais y Lle gan Gyngor Celfyddydau Cymru.