Mae arddangosfa ‘Twyllo’r Llygad’ wedi agor yma yn Storiel, casgliad o gwiltiau bychan cyffrous ar thema a wnaed gan aelodau Grŵp Cwiltiau Cyfoes, (rhan o’r QGBI), ynghyd â gwaith gan ddau artist tecstil gwadd, sef Dorothy Russell a Liesbeth Williams. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gyda Dorothy a Liesbeth yma yn Storiel, mwy o fanylion yn y poster (wedi atodi).