Perfformiad cerddorol gan y deuawd Mirror gaze
Yn yr ail yn y gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael ei cyflwyno gan yr artist Clare Marie Bailey, bydd cyfle prin i weld perfformiad byw o’r prosiect cerddorol Mirror Gaze yn Storiel.
Mae’r ddeuawd Mirror Gaze (Clare Marie Bailey a Jim Knight) yn chwarae detholiad o pop drôn tywyll a breuddwydiol, gan swynrwymo themâu seicadelig i fewn i’r caneuon. Mae eu sŵn wedi ei leoli yn y gofod sonic rhwng naifrwydd a thywyllwch, gyda lleisiau hanner-sibrwd Clare Bailey yn gosod tensiwn ddiddorol yn erbyn synau bas arbrofol a’r titrwm o offer taro esgynnol. Gyda geiriau sy’n cyffwrdd â themâu dymuno, pellter a chof aneglur; mae eu caneuon yn gyfres o bortreadau bychain ac emosiynol, fel darllediad hanner anghofiedig o wirionedd wnaeth byth fodoli.
Gwrandewch yn fyma