
Dosbarth Meistr Peintio Olew
31 May 2025Bydd Meinir Mathias yn arwain dosbarth meistr peintio olew gyfa ffocws ar bortreadau yma yn Storiel Bangor i nodi diwedd yr Arddangosfa Heddwch lle mae rhai o luniau Meinir yn cael eu harddangos. Mae'r gweithdy yn addas ar gyfer oedlion ac argymhellir rhywfaint o brofiad peintio. Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu un portread alla prime. Bydd y gweithdy yn helpu i fagu hyder gyda'ch set sgiliau gyda beirniadaethau un-i-un. Bydd Meinir yn rhannu ei gwybodaeth a'i phrofiad y gallwch chi eu chymhwyso i'ch paentiad eich hun. Byddwch yn archwilio potensial lliw, cyfansoddiad a chymhwyso paent ac yn dod i ddeall sut i adeiladu portread llwyddiannus.