Gweithdy Adeiladu Pont Lego ® gyda Steve Guinness – Am Ddim
28 March 2026Fel rhan o gyfres gweithgareddau dathliadau #Storiel10 dros gwyliau'r Pasg, mae'n fraint cael croesawu Steve Guinness y 'Brick Consultant' i’r amgueddfa i gyflwyno gweithdy addysgiadol, hwyliog i’r holl deulu. Daeth Steve ir amlwg fel enillydd cyfres cyntaf LEGO® Masters yn 2017 . Mae Steve hefyd yn gyfrifol am ddylunio y set LEGO® 'Ideas Typewriter'.