Teuluoedd

Digwyddiad

Delweddu Pont Grôg y Borth

24 January - 11 April 2026

ddathlu 200 mlynedd ers agor Pont Grôg Menai, comisiynwyd Steve Guinness gan Storiel i adeiladu model 5 troedfedd o hyd o'r bont gan ddefnyddio briciau Lego. Yn yr arddangosfa hon, roeddem am ddangos sut mae'r bont wedi'i darlunio yn hanesyddol – gan ddefnyddio casgliad Storiel o brintiau topograffig, ac arteffactau, fel y sampler a'r lle tân hwn. Mae mwy o eitemau a chyswllt â'r pontydd yn yr Amgueddfa. Rydym hefyd eisiau ysbrydoli ymwelwyr i adeiladu eu pont eu hunain gyda Lego.

Arddangosfa Gelf

Tu Ôl i’r Llenni

08 February - 22 March 2025

Mae ‘Tu Ôl i’r Llenni’ yn brosiect trwy’r rhwydwaith CELF (Casgliad Celf Gyfoes Cymru) a Celf ar y Cyd. Gwefan yw Celf ar y Cyd sy’n rhoi cyfle i bawb bori, dysgu a chael ysbrydoliaeth gan filoedd o weithiau celf gyfoes o gasgliad Amgueddfa Cymru. Bwriad y prosiect oedd peilota sut gall ysgolion cael mynediad gwell i’n casgliadau cenedlaethol – a sut gall orielau sy’n rhan o rhwydwaith CELF helpu hwyluso hynny. Un model o weithio sydd yma. Mae Storiel a Plas Glyn y Weddw wedi gweithio gyda dwy ysgol gynradd; Ysgol Garnedd (Bangor) ac Ysgol Cymerau (Pwllheli), yr artist Luned Rhys Parri ac Amgueddfa Cymru i gyflawni’r gwaith.