H&A: TU DRAW I’R…

O wythnos i wythnos rhannwn H&A gydag ein hartistiaid sydd yn arddangos. Dyma’r holi ac ateb cyntaf o’n sgwrs gyda Darren Hughes…

Tu draw i’r… ffrâm: Darren Hughes

Beth fyddwch yn ddweud wrth rywun sydd ag uchelgais ar fod yn artist?

“Byddwn yn dweud bod eisiau i chi weithio’n galed a bod yn uchelgeisiol, ond fwy na dim, i fod eich hunan a mwynhewch. Byddwn yn bendant yn argymell gwneud cwrs celf fel cwrs lefel 2 neu 3 neu gwrs sylfaen yn debyg i beth wnes i. Rhoddodd gyfle i mi fod fy hunan ac i archwilio fy angerdd am ddarlunio a gweithio gyda’r dirwedd. Ond roeddem yn cael ein herio yn gyson a gofynnir i ni gwestiynu ein hymarfer ar sawl lefel, a oedd mor bwysig. Rhoddodd hefyd i mi set o idealau sylfaenol sydd gyda mi hyd heddiw.

Mae cymaint o’r rhai a fu ar y cwrs hwnnw wedi mynd ymlaen i fod yn artistiaid, yn benseiri, yn gwneud ffilm, yn ddylunwyr graffeg… mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Mae pobl yn gallu anghofio bod cymaint o gyfleoedd oddi fewn i’r byd celf a bod gyrfa gyda chelf yn gallu bod mor foddhaus. Heb artistiaid a dylunwyr ni fyddwn gyda nifer o bethau rydym yn defnyddio a mwynhau yn ein bywyd o ddydd i ddydd!”

A wnaeth sefyllfa COVID yn 2020 newid rhywbeth yn eich ffordd o weithio?

“Do mewn ffordd, roeddwn yn tueddu i weithio llai a cherdded mwy yn ystod cyfnod clo ? Roedd yn amser da i feddwl ac ailasesu fel rhan fwyaf o bobl dwi’n tybio. Dechreuais wneud paentiadau olew bach ar banel o fy ardal gyfagos… dim ond llefydd ac ennyd y gwelwn wrth gerdded i’r siop i nôl llefrith neu er mwyn dod allan o’r tŷ pan oeddwn yn cael gwneud hynny. Ond tirluniau syml a dweud y gwir; yn darganfod y pleser yn y llefydd bob dydd hyn.”

Petai dim rhwystr, ble yn y byd hoffech ymweld a pham?

“Byddwn wrth fy modd yn cael treulio amser yn teithio ar draws a darganfod America. Mae’r holl ddiwylliant yn ddiddorol dwi’n meddwl… y gelf, y gerdd a’r hanes. Dwi’n meddwl y byddwn yn bendant yn ffafrio bod oddi ar y prif ffyrdd a gweld rhai o’r trefydd a’r cymunedau llai, oddi wrth ddiwylliant y brif ffrwd. Gwelaf fod rhai tirweddau anhygoel yno ac mor amrywiol. O dalaith ddiffaith, y mannau gwyllt anhygoel i drefydd chwareli Pennsylvania a thalaith Efrog Newydd. Gwlad mor anferthol i’w darganfod.

Dwi’n meddwl bod hyn yn dod gan imi ymweld â fy modryb yn Houston, Texas rhai blynyddoedd yn ôl, a chrwydro rhai o’r ardaloedd sydd o gwmpas… Roedd pensaernïaeth a diwylliant yr hen ‘western’ o hyd i’w weld mewn rhai mannau, fel oes a fu. Roedd y goleuni, y gwres, pensaernïaeth a bob rhan o beth oedd yn gwneud y lle mor gyffrous a hudolus… Ac roedd taith i gapel syfrdanol Rothko yn uchafbwynt arall i drip gwych.

Dwi’n meddwl byddai taith ar y lon mewn car clasurol ‘muscle’ yn eitem i dicio ffwrdd oddi ar ‘bucket list’ hefyd!”

Petae’n bosib, pa eitem gan artist neu ddylunydd yr hoffech gael yn y cartref?

“Byddwn wrth fy modd yn cael paentiad gan Michael Andrews, falle un o’r rhai diweddar o’r Afon Tafwys, neu, un o gyfres Ocean Park neu astudiaeth bywyd llonydd bychan gan Richard Diebenkorn. Nhw yw dau o fy hoff artistiaid. Mae eu gwaith yn anhygoel dwi’n meddwl.”

Pwy neu beth ar unrhyw adeg sydd wedi eich ysbrydoli chi?

“Mae fy rhieni a’i egwyddorion gwaith hwy yn bendant wedi fy ysbrydoli. Dwi’n meddwl hefyd bod byw yn agos iawn at draeth, bod yng nghanol natur a’r awyr agored rhan fwyaf o’r amser wrth dyfu fyny yn bendant wedi ffurfio fy mhersonoliaeth a fy nghariad tuag at dirwedd.

Rwyf hefyd wedi bod yn ddigon lwcus i gael adnabod rhai pobl arbennig yn fy mywyd a fu yn ysbrydoliaeth, fel Kyffin Williams a Peter Prendergast, a fyddai bob amser yn siarad am y pwysigrwydd o wneud llun a’r syniad o edrych a dysgu oddi wrth y byd sydd o’n gwmpas. Roedd (Peter) hefyd yn athro sensitif iawn, mwy na fyddai pobl falle wedi sylweddoli. Ac roedd ei ddealltwriaeth o anghenion bob myfyriwr unigol o ran eu gwaith ac ymarfer celf yn rhywbeth y byddaf yn defnyddio pan rwyf i yn dysgu yn y coleg. Felly mae wedi bod yn ddylanwad mawr arnaf mewn sawl ffordd.”

Os nad yn artist, pa waith arall a fyddwch wedi cysidro neu fwynhau?

“Credwch neu beidio, peiriannydd ceir mwy na thebyg!? Rwy’n caru ceir ac yn arbennig ceir clasuron Americanaidd. Rwyf wastad wedi cael fy swyno gan sut mae pethau yn gweithio ac, pan oeddwn i’n blentyn byddwn yn aml yn tynnu pethau yn ddarnau i weld sut oeddynt wedi ei adeiladu. Yn aml i anobaith fy rhieni dwi’n meddwl… rhannau o feic a weiars ymhobman! Ia, felly datgymalu pethau a’u rhoi nôl at ei gilydd yn bendant yn rhywbeth rwyf wastad wedi ei wneud, ac mae’n cysylltu â sut byddaf yn gweithio ar ddelweddau yn  y stiwdio. Rwyf wastad wedi dysgu orau wrth ‘Wneud’, felly, datrys problemau, gwneud camgymeriadau a darganfod ffyrdd o ddod dros hyn, mae’n sylfaenol a dweud y gwir.”

A oes hoff le, pwnc neu broses y gwelwch eich hun yn dychwelyd ato? Beth yw a pham?

“Darlunio, fel rwyf wedi sôn, yw’r peth y byddaf yn defnyddio ac yn dychwelyd ato yn aml. Dwi’n meddwl mai Bethesda yw’r lle rwy’n teimlo fwyaf cartrefol, felly byddaf am weithio o’r ardal hon yn wastad. Mae yma oleuni a newid tywydd mwyaf rhyfeddol… rwyf o hyd yn darganfod ffyrdd newydd o weld a mwynhau ei thirwedd.”

Beth oedd y sbardun neu’r man cychwyn i’r corff yma o waith celf?

“Y man cychwyn i’r corff cyfan hwn o waith oedd ailasesu fy ymarfer tua 3 mlynedd yn ôl.  Gwnaeth lwyr synnwyr i fynd nôl i’r cychwyn a rhoi ffocws ar yr elfen sylfaenol o wneud llun. Mae gwneud llun wedi bod yn sylfaenol i fy ymarfer ers i mi weithio gyda Peter (Prendergast) a’r tiwtoriaid eraill ar y Cwrs Sylfaen. Dyma’r ffordd fwyaf uniongyrchol i mi archwilio’r dirwedd ac mae’n broses rwy’n caru ac yn mwynhau.

Yn ystod yr amser yma, mae’r broses o ddarlunio hefyd wedi newid, gan ddefnyddio math newydd o bapur graddfa fawr a phigment golosg yn sylfaen i’r cefndir, bron fel paentio. Mae’r haenau yn cael eu hadeiladu yn raddol, yn creu mannau o oleuni, gan adeiladu’r arwyneb. Mae mwy o driniaeth i rai o’r darluniau, ac eraill yn fwy cynnil yn ddibynnol ar y naws ac awyrgylch roeddwn eisiau greu.

Roeddwn eisiau archwilio mannau newydd i ail-fywiogi fy hun a fy ymarfer, darganfod testun a fyddai’n rhoi problemau darluniadol i mi ddatrys… safleoedd newydd, tirweddau wedi eu llunio yn wahanol. Dyma sut i’r gwaith am yr ysbyty chwarel a thraeth Pentraeth ddod iddi. Gyda chyswllt mor gryf i Bentraeth, rwyf wastad wedi bod eisiau gwneud corff o waith o ddifri am y traeth. Felly cychwynnais gyda thaith gerdded ger yr afon ac allan i’r traeth ac, mewn ffordd, mae’r darluniau yn dogfennu hyn. Hefyd maent yn llefydd lle buom yn chwarae drwy gydol fy mhlentyndod, ac mae rhai o’r paentiadau yn perthyn yn benodol i atgofion plentyn o ddyddiau haf chwilboeth.”

Caiff H&A arall ei rannu wythnos nesaf!

Tudalen Arddangosfa ar-lein ‘BRO GYNEFIN’, Darren Hughes: