Rydym yn falch iawn o fod yn cychwyn ein harddangosfeydd y gwanwyn gyda gwaith newydd gan Darren Hughes.  Mae Darren yn ymdrin â’r dirwedd gyda gonestrwydd a realaeth gyfoes.  Mae’r arddangosfa hon o ddarluniau siarcol a chyfrwng cymysg, paentiadau olew a phrintiau ysgythru sychbwynt yn archwilio bröydd cynefin yr artist – gyda golygfeydd o Fethesda, Ynys Môn a Môr Iwerddon.

RHOLIWCH I LAWR i weld yr holl waith a manylion  …

H&A: TU DRAW I’R…

“Mae’r darnau yn yr arddangosfa yn ymateb i le rwy’n byw yn ardal Bethesda, a hefyd i Bentraeth ym Môn lle cefais fy magu.”

“Mae’r ysbyty chwarel ym Methesda yn adeilad pwysig mewn amryw o ffyrdd. Dyma’r ysbyty cyntaf yn eiddo’r chwarel a hefyd y lle cyntaf yng ngogledd Cymru i gyflawni llawdriniaeth gydag anesthetig. Bu hefyd yn gymorth i lawer o bobl a anafwyd wrth ddringo yn nyffryn Ogwen. Ceir naws hollol wahanol erbyn hyn yn yr adfeilion sydd wedi mynd â’u pen iddynt ar hyd Lôn Las Ogwen. Mae’n lle llonydd a distaw ynghanol y coed ac yn le deniadol. Mae’n ofod hollol wahanol yn y dirwedd ac yn le rwyf angen ei archwilio.”

“Mae’r traeth ym Mhentraeth wedi bod o ddiddordeb ac egni arbennig i mi erioed. Fel cartref fy mhlentyndod, treuliais fy holl amser bron ar y traeth, yn y dirwedd ac o’i chwmpas ac er fy mod yn adnabod y lle’n dda, o ran pwnc teimlaf nad wyf wedi archwilio digon arno go iawn. Mae’n fath hollol wahanol o dirwedd a thir yr wyf wedi arfer ag ef… yn bell iawn o fryniau Bethesda.”

“Sylfaenir y delweddau mewn arsylwad, gan fyfyrio ar egni ac awyrgylch y llefydd ac atgofion penodol. Mae ffotograffiaeth wedi chwarae rhan fechan wrth archwilio’r syniadau hyn a theimlaf fy mod yn ymateb i lonyddwch ffotograffiaeth – cipio’r eiliad honno mewn amser; yn rhan o’r byd, ond eto ar wahân. Y teimlad hwnnw sydd hefyd yn treiddio i rai o’r lleoliadau a ddefnyddir yn y delweddau hyn. Felly dechreuad yw’r gwaith newydd hwn, nid yn unig o ran archwilio math newydd o dirwedd ond hefyd o ran mynd i’r afael â fy ymarfer a fy nefnydd o brosesau a deunyddiau.”

Gellid prynu gwaith drwy gysylltu ar 01248 353 368 neu [email protected]