Mynegiant creadigol yn archwilio gwrthdaro o amgylch hanes a pherthynas, atgof a phoen, crefydd, a llawenydd. Ewch fewn i ofod yn cynnig amgylchedd adfyfyriol a llonydd, ymysg gwirionedd.

 

“…sometimes I wonder how all those who do not write, compose or paint can manage to escape the madness, the melancholia, the panic fear which is inherent in the human condition.” Graham Greene, Ways of Escape, 1980. 

 Pan ddarllenais y geiriau hyn yn yr 1980au, roeddent yn crynhoi fy angen i fynegi fy hun yn greadigol am hanes a pherthnasau, atgof a phoen, crefydd a gorfoledd.  Mae gwaith celf gweledol yn un ffordd a ddefnyddiaf i edrych ar y gwrthdrawiadau hyn.   

 Fy uchelgais yw adeiladu cadeirlan o goffadwriaeth i’r dioddefant a’r fuddugoliaeth dros y fasnach gaethwasiaeth trawsatlantig, tra’n cwestiynu’r eiconau diwylliannol.  Yn y cyfamser, rwyf yn braslunio ar gyfer y darlun dychmygol yma gan ddefnyddio’r gwagleoedd sydd ar gael.  

Yn yr oriel hon yn Storiel rwyf yn bwriadu creu synnwyr o gapel gydag amgylchedd myfyriol ac ymdeimlad o dawelwch, ynghyd ag adrodd am y gwirionedd. Mae’r gwaith aml-gyfrwng yn cynnwys portreadau, morluniau, gwrthrychau a ganfuwyd a recordiadau sain sy’n symbolau huawdl o deithiau personol a thorfol.” 

 Bydd criw amrywiol o gerddorion a pherfformwyr eithriadol yn cyfrannu tuag at y naratif yma yn ystod y rhaglen o dri mis.    

Daw arddangosfa Audrey West ynghyd â’r artist gwobredig, Gareth Griffith, ag elfennau Cymreig, Jamaican a diwylliannau eraill ynghyd o fewn persbectif unigryw y ddau arlunydd, yn ogystal â chyfraniad ehangach amrywiol bartneriaid.   Mae gan y ddau arlunydd gysylltiad cryf gyda Jamaica:  Ganwyd Audrey yno a daeth i’r DU yn 1962 fel rhan o’r ‘Genhedlaeth Windrush’. Ganed Gareth Griffith yng Nghymru ond bu’n dysgu celf yn Jamaica.  Gadawodd y ddau yr ynys hardd yma yn sgil profiadau trawmatig – sy’n ddim syndod o gofio am hanes yr ynys.  Hyd nes dechrau’r 21 ganrif roedd creulondeb masnach caethwasiaeth trawsatlantig y Caribî yn hanes cudd yn y DU.  Ers deffroad y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, bydd cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol yn gwerthfawrogi’r gwaith yma.   

 Mae Audrey West yn cyfranogi mewn sawl gweithgaredd creadigol. Mae’r rhain yn cynnwys Seicotherapi, bod yn weithgar yn y gymuned, ieithoedd, hyfforddiant cydraddoldeb, gwaith celf ac ysgrifennu creadigol.  Roedd ei gradd MA yn 2001 mewn Cof Diwylliannol yn cyfuno’r diddordebau hyn. Fe wnaeth hefyd ei gwneud yn ymwybodol o etifeddiaeth ôl-drawmatig caethwasiaeth Trawsatlantig ac mae yn ymdrin â hyn yn ei gwaith.  

 Mae paentiadau Audrey yn chwareus, therapiwtig, a hefyd yn archwiliad disgybledig o storiâu personol a diwylliannol.  Mae Audrey wedi cymryd rhan mewn amryfal arddangosfeydd unigol a rhai grŵp, gan gynnwys 1986 artistiaid merched du a ddarlledwyd ar y teledu:  Some of Us Are Brave, All of Us are Strong. Cynhaliwyd arddangosfeydd unigol yn 2010 yn y Crypt Gallery ac yn Oriel Stoke Newington, y ddwy yn Llundain. Ers symud i arfordir gogledd Cymru yn 2017, mae wedi arddangos mewn sioeau grŵp yn 2019 yn MOMA Machynlleth gyda Culture Colony Intervention Peter Telfer ac yn Oriel Sant Ioan, Abermaw.  Mae yn aelod o Utopia’s Bach a Merched y Tir: Cydweithredu rhwng Artistiaid yng Nghymru.