Bydd y gweithdy yma’n edrych ar y themau o “gysylltiadau” gan ddefnyddio deunyddiau celf amrywiol, fel colaj, paent, pastelau a gwaith 3D

Bydd y gweithdy’n cael ei arwain gan y therapydd celf Abbie Parry ac yn cynnig cyfle i ddefnyddio deunyddiau celf mewn ffordd wahanol-i fyfyrio, mynegi’n greadigol ac i greu gwaith a phrofiadau sy’n teimlo’n ystyrlon.

Does dim angen unrhyw brofiad celf- jyst calon agored, meddwl agored ac awydd i roi cynnig arni’n greadigol.

Abbie Parry

Therapydd celf ydi Abbie Parry, gyda chefndir mewn gweithdai cymunedol ac arlunio. Mae hi’n cyfuno’r sgiliau hyn i greu gweithdy sy’n cyfuno hunan-fynegiant creadigol gyda gwneud celf mewn awyrgylch cymunedol a chyfforddus

Mae Abbie’n byw yn Sheffield ar hyn o bryd, ond fe’i magwyd rhwng Gogledd Cymru a Llundain. Mae’n cael ysbrydoliaeth o’r cysylltiadau rhwng pobl, tir a straeon o bob cefndir a ffordd o fyw.

ARCHEBWCH YMA